Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025
Amser:
08.57 -
09.03
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Paul Davies AS Heledd Fychan AS Jane Hutt AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Steffan Lewis (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Marc Wyn Jones, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025
Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025
Nododd y Pwyllgor Busnes y newid a ganlyn
Gofynnodd Heledd Fychan a Paul Davies pryd y byddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Wella Amseroedd Aros yn cael ei aildrefnu. Esboniodd y Trefnydd fod y datganiad wedi'i ohirio oherwydd materion yn ymwneud ag ansawdd data a nododd y byddai'n cael ei ail-drefnu ar gyfer dechrau mis Ionawr 2026.
Cwestiynodd Heledd Fychan a oedd y 45 munud a neilltuwyd i'r Datganiad gan y Prif Weinidog ar Ymchwiliad Covid-19 y DU: Adroddiad Modiwl 2 yn ddigonol o ystyried y lefel debygol o ddiddordeb gan Aelodau. Nododd y Llywydd y bydd yn ystyried caniatáu i'r eitem fynd heibio i'r amserlen er mwyn sicrhau y gellir galw digon o Aelodau.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 10 mlynedd ers
cyflwyno’r cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau (45
munud) - bydd yn cael ei
gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig
Gofynnodd Heledd Fychan pam na fyddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar roi organau yn ddatganiad llafar, o ystyried pwysigrwydd y mater. Nododd y Trefnydd fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi nad oedd yn ystyried bod digon o sylwedd i warantu datganiad llafar, gan nodi hefyd hyd y trafodion a drefnwyd ar gyfer 2 Rhagfyr sy'n cynnwys Cyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Dywedodd y Trefnydd y byddai'n trafod y pwynt a godwyd gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu’r eitemau canlynol ar amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025
Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn cael ei drafod ddydd Mercher 17 Rhagfyr, yn syth ar ôl y ddadl ar yr Egwyddorion Cyffredinol.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gofyn am slot cyfarfod arall ar gyfer yr wythnos hon a bod hyn wedi'i gytuno y tu allan i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf oherwydd natur frys y cais.